Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg
Mae Aelodau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg a gyhoeddwyd ar 8 Hydref 2012. Mae cylch gorchwyl ein hymchwiliad fel a ganlyn:
Mae'r Pwyllgor yn bwriadu archwilio:
· gweithredoedd Llywodraeth Cymru i'w sicrhau ei hun bod fframweithiau gwneud penderfyniadau cymeradwy ar waith ar gyfer Byrddau Draenio yng Nghymru;
· rôl Llywodraeth Cymru o ran gweithio â Chil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen;
· dyfodol Byrddau Draenio Mewnol yng Nghymru;
· rôl gweision sifil a pham na chafodd pryderon eu codi'n gynt;
· presenoldeb awdurdodau lleol ar fyrddau a chyrff cyhoeddus;
· methodoleg Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer archwilio cyrff cyhoeddus bach, yn enwedig ei dull o archwilio cyfrifon Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg ar gyfer 2010-11.